1. Beth yw ystyr y termau: monomer, deumer a pholymer?
2. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng fformiwla strwythurol a fformiwla foleciwlaidd?
3. Beth yw isomer?
4. Beth yw'r term cyffredinol am un uned siwgr?
5. Sawl carbon sydd yn y siwgrau canlynol: trios, pentos, hecsos?
6. Beth yw'r fformiwla gyffredinol ar gyfer monosacarid?
7. Enwch: un siwgr trios, dau siwgr pentos a thri siwgr hecsos.
8. Enwch ddau foleciwl sy'n cynnwys ribos ac un sy'n cynnwys deocsiribos.
9. Beth yw swyddogaeth siwgrau trios a hecsos?
10. Pam mae glwcos, galactos a ffrwctos yn cael eu disgrifio fel isomerau o'i gilydd?